Rhieni
Cynnig cyfleoedd cerddorol i’ch plant ers 2018.
ANUNIONGYRCHOL
Llogi trwy Ysgol
Yn y rhan fwyaf o ysgolion, gallwch logi gwersi cerdd eich plentyn gyda’ch ysgol trwy siarad ag aelod staff fel ysgrifenyddes yr ysgol neu’r Pennaeth Cerdd.
Mae pob ysgol yn cynnig ystod wahanol o becynnau gwersi cerdd, gyda gwahanol gymorthdaliadau. Gall pob ysgol hefyd gynnig dewis gwahanol o offerynnau, yn dibynnu ar y nifer sy’n eu harchebu neu’r gofod sydd ar gael.
Er mwyn canfod beth yn union sydd ar gael yn ysgol eich plentyn, yn cynnwys faint fyddai cost y gwersi, byddem yn argymell cael gair gydag ysgol eich plentyn i ddechrau.
UNIONGYRCHOL
Llogi’n Uniongyrchol efo Ni
Mewn rhai ysgolion, rydym yn gwneud yr holl weinyddu gwersi cerdd ar eu rhan. Os oes gan eich plentyn ddiddordeb mewn gwersi cerdd ac mewn ysgol y gelwir gennym yn ysgol Anfonebu Uniongyrchol, dyma’r lle cywir i chi.
Mae gennym system benodol yn ei lle o’r enw Opus. Yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn gwbl ddwyieithog, dyma lle gallwch ganfod yn union pa becynnau sydd ar gael yn ysgol eich plentyn, yn ogystal â llogi gwersi cerdd, derbyn a thalu anfonebau, a rheoli’r cyfathrebu gyda ni.
Rydym hefyd yn cynnig mwy na dim ond gwersi cerdd. Rydym yn cynnal nifer o wasanaethau gwahanol, fel ensemblau wythnosol, ysgolion haf blynyddol, cyrsiau lles adeg hanner tymor, ymweliadau arholiadau cerdd, a llawer mwy.
System Opus
Mae Opus yn darparu un safle-am-bopeth lle gallwch logi gwersi cerdd mewn unrhyw ysgol restredig, yn ogystal â lle i logi aelodaeth ensembl, neu wasanaethau ychwanegol fel lle ar gyrsiau haf, ymweliad arholiad ac ati. Gall Opus ymdrin â mwy na llogi’n unig; mae’n rhoi llwyfan 24 awr i chi weld a thalu anfonebau, gweld negeseuon gennym am wersi cerdd eu plant, a rheoli pob agwedd arall o’n gwasanaethau yn rhwydd.
Rheoli gwasanaethau unrhyw bryd
Gweld a thalu anfonebau ar-lein
Pob gwybodaeth mewn un man
HOLL RIENI
Beth i’w Ddisgwyl
Cyswllt Canolog
Ein swyddfa yw eich man cyswllt canolog, yn darparu rhywun y gallwch ei g/alw neu dderbyn e-bost gydag unrhyw ymholiad am wersi cerdd neu gynnydd eich plentyn.
Sicrwydd Cydymffurfio
Rhaid i’n holl diwtoriaid gael tystysgrifau GDG dilys a dilyn hyfforddiant diogelu a gofal plant cyson. Dyma ddarparu sicrwydd i chi fod eich disgyblion mewn dwylo diogel.
Arferion COVID-Ddiogel
Mae ein holl diwtoriaid wedi cael hyfforddiant ymwybyddiaeth COVID, ac nid yr hyfforddiant yn unig ond yr offer yn ei le er mwyn cyflwyno gwersi cerdd yn eich ysgol mor ddiogel â phosibl.
Mynediad at Offerynnau
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod lleol, ac felly’n gyfrifol am yr holl offerynnau sy’n eiddo i’r sir. Byddai unrhyw un o’ch disgyblion sy’n derbyn gwersi gennym ni yn cael mynediad at offeryn cerdd o gyflenwad y sir i’w ddefnyddio gartref er mwyn ymarfer.
Mynediad at Ensemblau
Rydym yn cynnal ystod eang o ensemblau a chorau, yn ystod oriau ysgol ac ar ôl ysgol. Rydym yn croesawu pob disgybl i’n ensemblau, lle bynnag y maent yn cael eu gwersi cerdd – gennym ni neu gan eraill.
Mynediad at Wasanaethau Eraill
Rydym yn cynnig mwy na gwersi cerdd yn unig. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau i blant a phobl ifanc ledled gogledd Cymru, yn cynnwys ysgolion haf, cyrsiau lles, a gweithdai cerdd o safon uwch i enwi rhai’n unig.